Croeso i'r System Codi
Mae’r platfform arloesol hwn, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn uno cymwysiadau etifeddol yn ddatrysiad digidol di-dor a hygyrch i weithwyr proffesiynol GIG Cymru.
Bydd Codi’n cael ei ddefnyddio gan Fyrddau Iechyd, sefydliadau’r GIG, a rhanddeiliaid amrywiol, gan rymuso staff GIG Cymru ac AaGIC i reoli gwybodaeth ar gyfer hyfforddeion, hyfforddwyr, a gweithwyr proffesiynol y GIG drwy gydol eu gyrfaoedd yng Nghymru.
Dim ond y dechrau yw datganiad cychwynnol Codi, mae AaGIC yn bwriadu integreiddio systemau ychwanegol gan gynnwys MARS ac Orbit360 i Codi. Bydd y prosiect aml-gyfnod hwn yn parhau i esblygu dros y tair blynedd nesaf, gan sicrhau bod y system yn diwallu anghenion amrywiol yr holl ddefnyddwyr a rhanddeiliaid.