Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i raglen Codi.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:

  • chwyddo hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Ni allwch addasu uchder llinell neu bylchau testun
  • efallai na fydd rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn 30 diwrnod gwaith ar y mwyaf.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: heiw.people@wales.nhs.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn,Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn ymchwilio i'r opsiwn i ddarparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sy'n fyddar, pobl â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu llais.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)..

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA safonol. Gweler rhestr 'peidio â chydymffurfio a'r eithriadau' isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni 'WCAG 2.2 AA' mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:

  • Defnydd anghywir o dagiau tirnod - Cyfeirnod(au) WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  • Defnydd anghywir o briodoleddau ARIA - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Trefn aneglur elfennau tudalen ar gyfer darllenydd sgrin - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A)
  • Problem cyferbyniad lliw - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.4.3 Cyferbyniad
  • Dryswch posib a achosir gan leoliad dolenni ar gyfer darllenydd sgrin - Cyfeirnod WCAG: Maen Prawf Llwyddiant 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (Lefel A)

Ein nod yw cywiro'r methiannau hyn erbyn Chwefror 2026.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ein bwriad yw parhau i wella hygyrchedd gydag archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Tachwedd 2025 Bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Tachwedd 2026. Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Tachwedd 2025. Cynhaliwyd y prawf gan Shaw Trust a chan Adran Ddigidol AaGIC gan ddefnyddio cymysgedd o brofion ac offer hygyrchedd WAVE, axe, SortSite a Lighthouse .